Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA(4)-27-14

 

CLA457 - Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 ("y Ddeddf")  a gwnaed y Gorchymyn hwn o dan adrannau 9 ac 16 o'r Ddeddf. Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr o is-ddeddfau y caiff y mathau perthnasol o awdurdodau eu gwneud heb eu cadarnhau, a hynny drwy ddiwygio Tabl 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau y caiff is-ddeddfau oddi tanynt ddarparu ar gyfer hysbysiadau cosbau penodedig. Mae Erthygl 3 yn diwygio Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Ddeddf er mwyn gwneud hynny.

 

Nid yw'r adrannau o'r Ddeddf y bydd yr Atodlenni'n gymwys iddynt mewn grym ar hyn o bryd. Mae'r Pwyllgor yn deall y bwriedir iddynt ddod i rym yn gynnar yn 2015, er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol baratoi at roi'r adrannau hynny ar waith gan wybod am holl gwmpas y pwerau y byddant yn gymwys iddynt.

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Mae'r Gorchymyn yn cyfeirio at amrywiaeth o Ddeddfau Lleol sy'n caniatáu i awdurdodau wneud is-ddeddfau. Mae paragraff 2 o'r Memorandwm Esboniadol yn esbonio na fynegwyd unrhyw bryderon am hygyrchedd y Deddfau hynny yn ystod yr ymgynghoriad ynghylch y Gorchymyn hwn. Mae rhai ohonynt i'w gweld ar wefan legislation.gov.uk yr Archifau Cenedlaethol, ond nid yw pob un wedi'i nodi.

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Archifau Cenedlaethol ac awdurdodau lleol i sicrhau bod yr holl Ddeddfau Lleol sy'n gymwys i Gymru i'w gweld ar y wefan hon, yn enwedig y rhai y cyfeirir atynt yn Neddfau Cyffredinol Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol.

 

[Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Hydref 2014

 

 

Ymateb y Llywodraeth

 

Mae’r cynnig i ychwanegu at Atodlen 1 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 y pwerau i wneud is-ddeddfau yn y Deddfau lleol y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn yn ymateb i sylwadau a wnaed yn ystod proses graffu’r Cynulliad. Mewn tystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad wrth i’r Cynulliad graffu ar y Bil, awgrymwyd y dylai Gweinidogion Cymru ystyried p’un a ddylid ychwanegu Deddfau eraill at Atodlen 1. Yn arbennig, dadleuodd Cyngor Dinas a Sir Abertawe y dylid ychwanegu Deddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986 at Atodlen 1, ac argymhellodd y Pwyllgor yn ei adroddiad y dylai’r Gweinidog ystyried gwneud hynny. Mewn ymateb i hynny, cytunodd y Gweinidog Llywodraeth Leol ar y pryd i ystyried ychwanegu Deddfau pellach at Atodlen 1 a chynhaliodd swyddogion Llywodraeth Cymru adolygiad pellach o Ddeddfau lleol.

 

Ymgynghorwyd ar y Gorchymyn drafft ei hun fel rhan o ymgynghoriad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru a barhaodd am 12 wythnos, ac ymhlith y rhai yr ymgynghorwyd â hwy yr oedd cyrff llywodraeth leol a’r cyhoedd. Ni wnaeth yr un o’r ymatebion i’r ymgynghoriad fynegi unrhyw bryder am hygyrchedd y Deddfau lleol y mae’r Gorchymyn yn cyfeirio atynt. Bydd y Gorchymyn drafft ei hun, wrth gwrs, yr un mor hygyrch i’r cyhoedd ag unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Cynulliad ac a wneir gan Weinidogion Cymru.

 

Mae’r holl ddeddfwriaeth o 1988 ymlaen wedi ei gyhoeddi ar wefan legislation.gov.uk, ynghyd â’r rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth cyn y dyddiad hwnnw. Ceir rhai eithriadau i hynny, fodd bynnag, ac mae’r broses hon wedi amlygu’r eithriadau hynny. Cyfrifoldeb yr Archifau Gwladol yn cyhoeddi deddfwriaeth, ond mae Gweinidogion Cymru yn derbyn yr argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gydweithio â’r Archifau Gwladol, ynghyd ag awdurdodau lleol, i geisio sicrhau bod yr holl Ddeddfau lleol sy’n ymwneud ag ardaloedd yng Nghymru ar gael ar legislation.gov.uk (yn enwedig y rhai hynny y mae Deddfau Cyffredinol Cyhoeddus y Cynulliad yn cyfeirio atynt).